Lleoliad:
Virtual via Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 20 Mehefin 2023
Amser:
09.01 -
09.37
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Siân Wilkins, Pennaeth Gweithdrefnau a Sgiliau Seneddol Llinos Madeley, Clerc - Gweithdrefnau a Sgiliau Seneddol Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mercher
Tynnodd y Llywydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:
Dydd Mawrth 4 Gorffennaf 2023
· Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar Ddiogelwch Adeiladau (30 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael (15 munud)
Rhoddodd y Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Busnes am y ddadl Cyfnod 3 ar Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), a drefnwyd ar gyfer 11 Gorffennaf, gan nodi bod angen nifer fach o ddiwygiadau technegol i’r Bil oherwydd newidiadau a wnaethpwyd i Fil Caffael y DU. Gan fod yr amserlen ar gyfer Bil Caffael y DU wedi newid ac efallai na fydd y gwaith o graffu arno’n cael ei gwblhau cyn y terfyn amser presennol ar gyfer cyflwyno gwelliannau i Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) yng Nghyfnod 3, nododd y Trefnydd y bydd y Llywodraeth yn parhau i fonitro ei hynt a bydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Busnes am unrhyw effaith y bydd hyn yn ei gael hyn ar ddadl Cyfnod 3 yn ôl yr angen.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 28 Mehefin 2023 –
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Adam Price (30 munud) – wedi’i symud o 21 Mehefin
Dydd Mercher 12 Gorffennaf 2023 –
3.4 Diweddariad ar y trefniadau ar gyfer y sesiwn ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y trefniadau terfynol ar gyfer y sesiwn ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru ar 21 Mehefin, gan gynnwys y dyraniadau siarad ar gyfer Aelodau a fformat y cwestiynau i Lywodraeth Cymru.
4 Deddfwriaeth
4.1 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunwyd ar achub y blaen a chyfeirio'r Memorandwm Atodol ar y Bil Caffael (Memorandwm Rhif 6) at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu, gan nodi bod angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 3 Gorffennaf.
Rhoddodd y Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Busnes am y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio, gan nad yw Llywodraeth Cymru bellach yn ei ragweld yn cael Cydsyniad Brenhinol cyn toriad yr haf. Bydd gwelliannau y disgwylir iddynt gael eu cyflwyno cyn toriad y Senedd yn debygol o arwain at Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol arall ac, o ganlyniad, mae’n debygol y caiff dadl arall ar gynnig cydsyniad ei chynnal ym mis Medi. Bydd y Trefnydd yn darparu diweddariad pellach cyn y toriad os yw’r sefyllfa'n newid.
5 Pwyllgorau
5.1 Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch cais i aelodau’r Pwyllgor gynnal busnes y Pwyllgor yng Nghaergybi
Gwnaeth y Pwyllgor Busnes drafod y cais i aelodau Pwyllgor adael y Cyfarfod Llawn yn gynnar ar 12 Mehefin er mwyn ymgymryd â busnes y Pwyllgor yng Nghaergybi, a chytunwyd arno.
5.1a
6Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch cais i aelodau’r Pwyllgor wneud gwaith ymgysylltu ar 21 Mehefin
Gwnaeth y Pwyllgor Busnes drafod y cais i aelodau Pwyllgor adael y Cyfarfod Llawn yn gynnar ar 21 Mehefin er mwyn ymgymryd â gwaith ymgysylltu’r Pwyllgor, a chytunwyd arno.
5.2 Cyd-Gadeiryddion: Goblygiadau Ymarferol, Gweithdrefnol a Chyfreithiol
Trafododd y Pwyllgor Busnes y goblygiadau ymarferol, gweithdrefnol a chyfreithiol sy'n deillio o benodi Cyd-Gadeiryddion i Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru.
Cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor:
Trafododd y Pwyllgor Busnes sawl mater i’w cynnwys mewn Rheol Sefydlog Dros Dro a chytunwyd mewn egwyddor y dylai gynnwys darpariaethau a oedd yn nodi’r hyn a ganlyn:
· bod cyfeiriadau yn y Rheolau Sefydlog at “gadeirydd” pwyllgor i gael eu dehongli i olygu “cyd-gadeirydd” y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ymchwiliad Covid;
· bod rhaid i swyddogaethau cadeiryddion pwyllgorau a amlinellir yn y Rheolau Sefydlog gael eu harfer ar y cyd gan Gyd-Gadeiryddion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ymchwiliad Covid;
· bod rhaid cytuno ar brotocol rhwng y Cyd-Gadeiryddion sy'n nodi eu ffyrdd o weithio ar y cyd;
· na chaiff y trefniant cyd-gadeirio gynnwys mwy na dau Aelod unigol.
Hefyd, trafododd y Pwyllgor Busnes effaith absenoldeb dros dro un, neu’r ddau, o’r Cyd-Gadeiryddion, gan gynnwys y trefniadau ar gyfer cadeirio dros dro. Gwnaethant drafod a ddylid penodi Cyd-Gadeirydd dros dro o’r un grŵp â’r Cyd-Gadeirydd absennol, a chytunwyd mewn egwyddor y dylid ystyried manylion y materion ymarferol a gweithredol sy’n deillio o absenoldeb dros dro wrth ddatblygu protocol rhwng Cyd-Gadeiryddion.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Rheol Sefydlog Dros Dro arfaethedig ddod i ben os diddymir Pwyllgor Diben Arbennig ar Ymchwiliad Covid drwy benderfyniad y Senedd neu adeg diddymu’r Chweched Senedd, pa un bynnag sydd gynharaf.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddent yn trafod y materion hyn â Chyd-Gadeiryddion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ymchwiliad Covid-19 ac yn dychwelyd i drafod Rheol Sefydlog Dros Dro drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol, gyda’r bwriad o’i gynnig yn y Senedd cyn toriad yr haf.
Cytunwyd hefyd i rannu â’r Bwrdd Taliadau Annibynnol unrhyw fanylion gweithdrefnol perthnasol ar gyfer ei benderfyniadau ar faterion yn ymwneud â thâl y Cyd-Gadeiryddion.